Genesis 17

Arwydd o'r ymrwymiad

1Pan oedd Abram yn 99 mlwydd oed, dyma'r Arglwydd yn ymddangos iddo, ac yn dweud, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth
17:1 Hebraeg,  El Shadai
. Dw i am i ti fyw mewn perthynas â mi, a gwneud beth dw i eisiau.
2Bydda i'n gwneud ymrwymiad rhyngon ni'n dau, ac yn rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.”

3Dyma Abram yn mynd ar ei wyneb ar lawr. Ac meddai Duw wrtho, 4“Dyma'r ymrwymiad dw i'n ei wneud i ti: byddi'n dad i lawer iawn o bobloedd gwahanol. 5A dw i am newid dy enw di o Abram
17:5 h.y. tad pwysig
i Abraham
17:5 h.y. tad llawer iawn
, am fy mod i wedi dy wneud di yn dad llawer o bobloedd gwahanol.
6Bydd gen ti filiynau o ddisgynyddion. Bydd cenhedloedd cyfan yn dod ohonot ti, a bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd. 7Bydda i'n cadarnhau fy ymrwymiad i ti, ac i dy ddisgynyddion ar dy ôl di. Bydd yr ymrwymiad yn para am byth, ar hyd y cenedlaethau. Dw i'n addo bod yn Dduw i ti ac i dy ddisgynyddion di. 8A dw i'n mynd i roi'r wlad lle rwyt ti'n crwydro, gwlad Canaan, i ti a dy ddisgynyddion am byth. Fi fydd eu Duw nhw.”

9Yna dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Rhaid i ti gadw gofynion yr ymrwymiad – ti, a dy ddisgynyddion ar dy ôl di, ar hyd y cenedlaethau. 10Dyma mae'n rhaid i ti a dy ddisgynyddion ei wneud: Rhaid i bob gwryw fynd trwy ddefod enwaediad. 11Byddwch yn torri'r blaengroen fel arwydd o'r ymrwymiad rhyngon ni. 12I lawr y cenedlaethau rhaid i bob bachgen gael ei enwaedu pan mae'n union wythnos oed. Mae hyn i gynnwys y bechgyn sy'n perthyn i'r teulu, a'ch caethweision a'u plant. 13Bydd rhaid i'r caethweision gafodd eu prynu gynnoch chi, a'i plant nhw fynd drwy ddefod enwaediad. Bydd arwydd yr ymrwymiad rhyngon ni i'w weld ar y corff am byth. 14Bydd unrhyw wryw sydd heb fynd drwy ddefod enwaediad yn cael ei dorri allan o'r gymuned, am ei fod heb gadw gofynion yr ymrwymiad.”

15Wedyn dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “I droi at Sarai, dy wraig. Dwyt ti ddim i'w galw hi yn Sarai o hyn ymlaen, ond Sara. 16Dw i'n mynd i'w bendithio hi, a rhoi mab i ti ohoni hi. Dw i'n mynd i'w bendithio hi, a bydd hi yn fam i lawer o genhedloedd. Bydd brenhinoedd gwahanol bobloedd yn dod ohoni.” 17Aeth Abraham ar ei wyneb ar lawr eto, ond yna dechrau chwerthin iddo'i hun, a meddwl, “Sut all dyn sy'n gant oed gael plentyn? Ydy Sara, sy'n naw deg oed, yn gallu cael babi?” 18A dyma Abraham yn dweud wrth Dduw, “Pam wnei di ddim gadael i Ishmael dderbyn y bendithion yna?” 19“Na,” meddai Duw “mae dy wraig Sara yn mynd i gael mab i ti. Rwyt i'w alw yn Isaac.
17:19 h.y. mae e'n chwerthin
Bydda i'n cadarnhau iddo fe yr ymrwymiad dw i wedi ei wneud – ei fod yn ymrwymiad fydd yn para am byth, ac i'w ddisgynyddion ar ei ôl.
20Ond dw i wedi clywed beth rwyt ti'n ei ofyn am Ishmael hefyd. Bydda i'n ei fendithio fe, ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion iddo. Bydd yn dad i un deg dau o benaethiaid llwythau, a bydda i'n ei wneud yn genedl fawr. 21Ond bydda i'n cadarnhau yr ymrwymiad dw i wedi ei wneud gydag Isaac. Bydd yn cael ei eni i Sara yr adeg yma'r flwyddyn nesa.” 22Ar ôl dweud hyn i gyd, dyma Duw yn gadael Abraham.

23Felly'r diwrnod hwnnw dyma Abraham yn enwaedu ei fab Ishmael, a'i weision i gyd (y rhai oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a'r rhai roedd wedi eu prynu) – pob un gwryw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.

24Roedd Abraham yn 99 mlwydd oed pan gafodd ei enwaedu. 25Roedd Ishmael yn 13 pan gafodd e ei enwaedu. 26Dyma'r ddau ohonyn nhw yn cael eu henwaedu y diwrnod hwnnw. 27A cafodd pob un o'r dynion a'r bechgyn eraill oedd gydag e eu henwaedu hefyd (y gweision oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a'r rhai oedd wedi eu prynu).

Copyright information for CYM